Cynhelir y dathliadau diwylliannol o’r 17eg ganrif ar safle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngholeg Llandrillo, Campws Glynllifon ger Caernarfon ddydd Mercher nesaf, 6 Mehefin am 1.30pm wrth i berfformiad fflach o geffylau Mari deithio trwy safle'r ŵyl.
Mae’r Fari Lwyd, sef yr Hen Geffyl Llwyd, yn ddathliad Blwyddyn Newydd traddodiadol i nodi diwedd dyddiau tywyll y gaeaf ac i groesawu’r gwanwyn. Ar un adeg fe’i dathlwyd ledled Cymru, ond mae bellach yn draddodiad a gysylltir â de a de ddwyrain y wlad.
Gyda chyllid o £6,700 gan CDL, mae trac:Traddodiadau Cerddorol Cymru Cyf (trac) wedi lansio prosiect blwyddyn o hyd i helpu adfywio’r traddodiad ledled Cymru. Trwy’r prosiect, bydd pobl ifanc yn derbyn adnoddau a gweithdai ar arferion traddodiadol y Fari Lwyd, yn cynnwys gwersi cerddoriaeth a dawns, llwybrau a model pac-fflat o geffyl Mari Lwyd, er mwyn delio â’r broblem o gael gafael ar ben sgerbwd ceffyl ar gyfer y traddodiad.
Bu trac, sydd eisoes wedi dechrau gweithredu’r prosiect, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Nefyn yn ddiweddar ble buont yn cynnal gweithdai i ddod â’r traddodiad Cymreig hwn yn fyw ac i baratoi ceffylau Mari Lwyd y bydd plant ysgol yn eu defnyddio wrth gymryd rhan yn y perfformiad yn yr Urdd.
Meddai Gwawr Howel, athrawes ddosbarth yn Ysgol Gynradd Nefyn: “Rydym wedi bod yn ffodus iawn i fod yn un o’r ysgolion cyntaf i gymryd rhan ym mhrosiect y Fari Lwyd. Yn ogystal â chefnogi'r cwricwlwm, fe gipiodd y gweithdai ymarferol ddychymyg y plant a datblygu sgiliau newydd a gwell dealltwriaeth o’u treftadaeth a diwylliant.”
Meddai Danny Killbride, cyfarwyddwr yn trac: Traddodiadau Cerddorol Cymru: “Mae’n arbennig ein bod wedi derbyn y cyllid hwn gan CDL, sydd wedi’n galluogi i dynnu cymunedau i mewn i’r arfer traddodiadol hwn. Yn ôl yn 2009, buom yn gweithio gyda chymuned Cas-gwent i sefydlu grŵp Mari Lwyd, ac ers hynny mae cymunedau eraill wedi cysylltu â ni’n rheolaidd hefyd yn awyddus i ailgynnau’r traddodiad cyffrous hwn.
Rydym wir yn edrych ymlaen at ein perfformiad fflach yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wythnos nesaf ac yn gobeithio y bydd yn denu’r torfeydd ac ysgogi diddordeb yn nefod arbennig y Fari Lwyd. Trwy gydol y prosiect, byddwn yn ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru, gan ddarparu adnoddau a gwersi ar draddodiadau y Fari Lwyd. Gobeithiwn y bydd y sgiliau hyn yn cael eu pasio ymlaen rhwng grwpiau cymunedol wedyn, gan ehangu gwybodaeth ac arfer traddodiad y Fari Lwyd ledled Cymru.”
Meddai Jennifer Stewart, Pennaeth CDL Cymru: “Mae prosiectau fel hyn gyfle i bobl archwilio treftadaeth a diwylliant Cymru. Rydym wrth ein boddau i fod yn cefnogi prosiect mor werthfawr sy’n bodloni gofynion cymunedau ledled Cymru.
“Mae pobl a chymunedau yn ganolog i brosiectau’r CDL a diolch i sefydliadau fel trac mae treftadaeth amrywiol Cymru yn cael ei atgyfodi a’i ddiogelu i genedlaethau i ddod. Gobeithiwn y bydd dathliadau'r Flwyddyn Newydd 2013 yn cynnwys traddodiad y Fari Lwyd mewn hyd yn oed mwy o leoliadau ledled Cymru.”
Gwybodaeth bellach
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phrosiect y Fari Lwyd a sut i gael mynediad at adnoddau dwyieithog yn cynnwys Mari Lwyd pac-fflat a llyfryn o arferion y Fari Lwyd gan y Dr Rhiannon Ifans, ewch i wefan trac, ffoniwch 029 2031 8863 neu anfonwch ebost i trac.
Beth yw traddodiad y Fari Lwyd?
- Mae’r Fari Lwyd (Y Ceffyl Llwyd), yn draddodiad canol gaeaf Cymreig, yn aml i ddathlu’r flwyddyn newydd.
- Mae’r Fari Lwyd yn cynnwys penglog pren neu gardfwrdd o geffyl ar ffon, sy’n cael ei gario gan rywun wedi ei orchuddio â chynfas wen. Fe’i haddurnir â rhubanau a chlychau bychan.
- Mae’r Fari Lwyd yn rhan o grŵp sy’n gorymdeithio trwy strydoedd y gymuned leol, yn galw mewn tafarndai a thai ar y ffordd i ganu caneuon traddodiadol a dawnsio gwerin.
- Weithiau bydd gên y ceffyl ar sbring er mwyn i’r gweithredwr allu clecio ei ddannedd ar bobl wrth fynd heibio, gan geisio eu dychryn neu godi hwyl a hafog.
- Erbyn heddiw cynhelir dathliadau'r Fari Lwyd o hyd mewn rhai rhannau o Gymru; gellir gweld perfformiad o’r Fari Lwyd pob mis Rhagfyr yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan ac fe gynhelir cymysgedd o ddathliadau'r Fari Lwyd a Gwasel yn nhref y ffin Cas-gwent pob mis Ionawr.