Newyddion
Ffotograffau a thoriadau papurau newydd o'r Ail Ryfel Byd - rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

 Pobl ifanc yn dod â hanes cudd Ysbyty Trelái yn fyw 

 24/02/2012 

Fe ddaeth pobl ifanc ag anableddau dysgu sy'n byw yng Nghaerdydd â hanesion cudd Ysbyty Trelái a sefydliadaeth yn fyw mewn perfformiad byw yn amgueddfa Stori Caerdydd ddydd Sadwrn diwethaf, 18 Chwefror. 

Mae'r perfformiad yn rhan o arddangosfa Pobl yn Gyntaf Caerdydd sy'n rhannu atgofion y trigolion a'r bobl sy'n gysylltiedig â'r hen ysbyty GIG a ddefnyddiwyd fel safle sefydliadol tan 1997.

Wedi ei hariannu gan swm grant o £25,400 diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), mae'r arddangosfa am y tro cyntaf yn dal rhan bwysig o hanes cymdeithasol pobl ag anableddau dysgu o Gaerdydd yn ystod yr 20fed ganrif.

Deilliodd y syniad am y prosiect o drafodaethau rhwng aelodau iau a hŷn Pobl yn Gyntaf Caerdydd yn ymwneud â sut beth yw bywyd i rywun ag anabledd dysgu yn yr oes bresennol. Mae rhai o aelodau hŷn y grŵp yn gyn-drigolion Ysbyty Trelái ac roeddent yn awyddus i helpu'r aelodau iau yn ogystal â'r gymuned ehangach i ddeall sefydliadaeth a'r newidiadau pwysig sydd wedi eu rhoi ar waith i wneud bywyd yn well i bobl ag anabledd dysgu heddiw.

Cyflwynodd y perfformiad rhyngweithiol dealltwriaeth y bobl ifanc o fywyd bob dydd yn yr ysbyty ynghyd ag archwilio'r profiadau a'r teimladau posib o fod yn un o'r trigolion yno slawer dydd, gan gynnwys y dasg o wneud gwelyau a'r teimlad o gysgu'n un o 30 mewn ward.

Ers agor ar ddiwedd mis Ionawr mae dros 1,200 o bobl wedi ymweld â'r arddangosfa sy'n cynnwys theatr pypedau cysgod yn perfformio straeon ar hyd y degawdau, cyfweliadau fideo gyda chyn-drigolion a staff, gêm nadredd ac ysgolion fawr i ddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gadael Ysbyty Trelái, yn ogystal ag ystafell gyffredin a gwely replica i osod yr olygfa.

Meddai Karen Jeffreys Cydlynydd Prosiect, Pobl yn Gyntaf Caerdydd: "Rydym wedi cael ymateb anhygoel i'r arddangosfa gan bawb, o fyfyrwyr nyrsio i weithwyr gofal i'r cyhoedd, mae pobl wedi bod yn dod yma i ddysgu mwy ac i rannu eu hatgofion eu hun, sydd ar adegau wedi bod yn emosiynol. Mae yna rai storïau trist iawn. Mae rhai storïau yn hapusach. Yn yr un modd mae yma enghreifftiau o waith arloesol a fu'n bwysig iawn wrth newid bywydau pobl ag anabledd dysgu er gwell.

"Daeth un aelod o'r cyhoedd i'r arddangosfa gyda chyfnodolyn meistr o Wyrcws Trelái sy'n dyddio'n ôl i'r 1920au. Mae'r llyfr yn rhoi cipolwg diddorol o'r cyfnod amser hwnnw ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth berthnasau yn gofyn os oedd hawl gan aelodau eu teulu ddod adref. Yn anffodus, roedd llawer o bobl bryd hynny'n cael eu galw'n 'ynfydion', ac fe'u disgrifir fel rhai oedd yn 'analluog i wneud unrhywbeth dros eu hunain'. Fe fydd y llyfr hwn bellach yn cael ei storio gan Archifau Morgannwg ac fe fydd yn ychwanegu at eu casgliad Archif Ysbyty Elái, sydd ar gael i'r cyhoedd."

Meddai Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru,: "Mae'r prosiect yn pontio'r cenedlaethau ac yn mynd i'r afael â phwnc sensitif nad yw wedi ei archwilio hyd yn hyn fel rhan o dreftadaeth ehangach de-ddwyrain Cymru.

"Mae'r prosiect wedi datgelu nifer o straeon ofnadwy ond mae yr un mor bwysig i gofnodi'r rhain ag y mae i gofnodi atgofion cadarnhaol er mwyn adeiladu darlun llawnach o fywyd pobl ag anableddau dysgu yn yr 20fed ganrif. Mae Pobl Caerdydd yn Gyntaf wedi creu adnodd hanesyddol pwysig ac etifeddiaeth barhaol sy'n rhoi'r cyfle i bawb ddysgu."

Meddai Mark Drakeford, AC dros Orllewin Caerdydd, a gynhaliodd ddarlith fel rhan o'r arddangosfa ar Ymchwiliad Ysbyty Trelái 1969: "Fe daflodd Ymchwiliad Ysbyty Trelái oleuni pwerus ar ofal cleifion ag anawsterau dysgu ac fe amlygwyd llawer o ddiffygion a methiannau ofnadwy a fu'n sioc i'r cenedl gyfan. Bu'r Ymchwiliad arwain at newidiadau mawr yn y ffordd y cawsai pobl eu trin yn y system gofal cymdeithasol ar draws y DU yn y blynyddoedd dilynol. Mae'r arddangosfa wedi atgyfodi rhai atgofion pwerus ac anghyfforddus o fywyd y cleifion o fewn muriau'r sefydliad enfawr hwnnw. Er bod llawer o'r atgofion yn ysgytwol, mae yna hefyd gleifion sy'n cofio'u cyfnod yn yr ysbyty gyda hoffter diolch i'r caredigrwydd a'r gofal a gawsant.

"Bydd Ysbyty Trelái yn cael ei gofio mewn llawer ffordd, ond 'does dim amheuaeth bod hwn wedi bod yn un o'r arddangosfeydd mwyaf diddorol i'w chynnal yng Nghaerdydd ac rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi chwarae rhan yn y project."

Dyddiad olaf yr arddangosfa ydy Dydd Sadwrn, 25 Chwefror yn Amgueddfa Stori Caerdydd.

Katie Lee yn dosbarthu ffug moddion fel rhan o berfformiad am fywyd yn Ysbyty Trelai 
Katie Lee yn dosbarthu ffug moddion fel rhan o berfformiad am fywyd yn Ysbyty Trelái