Mae'r prosiectau a ariannwn ym mhob cwr o'r DU - o Ynysoedd Erch ac arfordir Mourne Gogledd Iwerddon i Benrhyn Gwaedd a chlogwyni gwynion Caint. O wneud gwaith cadwraeth ar balas brenhinol i ddatgelu straeon cudd am grwpiau o ffoaduriaid, ac o agor Safleoedd Treftadaeth y Byd i ddiogelu rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin, maent yn cwmpasu pob rhan o'n treftadaeth amrywiol.
Nid yn unig y mae ein prosiectau wedi adfywio miloedd o amgueddfeydd, parciau, adeiladau hanesyddol, tirweddau a safleoedd bywyd gwyllt, maent hefyd wedi rhoi ystyr newydd i dreftadaeth: bellach, mae pobl o bob cefndir yn ymwneud â threftadaeth sy'n eu hysbrydoli, maent yn gwneud penderfyniadau am yr hyn maent am ei gadw a'i rannu o'r gorffennol, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau llwyddiannus rydym wedi cefnogi.