Prosiectau
Dynes ifanc croen du yn edrych ar ddeunydd archif printiedig − rhan o brosiect Hanging Out. Llun Damian Walker

Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau  

Mae ein harian yn helpu i drawsnewid amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau, a'r casgliadau y maent yn eu cadw.

O Belfast i Norwich ac o Abertawe i Shetland, mae gan drefi a dinasoedd ledled y DU amgueddfeydd ac archifau y gallant fod yn falch ohonynt. Mae gan rai o'r rhain gartrefi newydd a chyfoes, tra bod eraill wedi cael eu hailddatblygu mewn adeiladau hanesyddol, gyda chyfleusterau cyhoeddus rhagorol.

Rydym yn helpu amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd i gaffael gwrthrychau a deunyddiau newydd, a sicrhau bod eu casgliadau yn berthnasol i ymwelwyr.  Er enghraifft, mae'r portread o nyrs Mary Seacole a brynwyd gan y Oriel Bortreadau Genedlaethol bellach yn cael ei ddefnyddio mewn rhaglenni addysg am Frythoniaid du arwyddocaol.

Rydym hefyd yn helpu i sicrhau bod casgliadau archifau yn fwy hygyrch drwy gatalogio a digideiddio a thrwy raglenni allgymorth.

Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau rydym wedi cefnogi.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Yr ydym wedi rhoi £977 miliwn i dros 600 o brosiectau sy'n cynnwys adeiladu ac adnewyddu amgueddfeydd ac orielau.
  • Dyfarnwyd £124 miliwn i arddangosfeydd, dehongliadau, rheoli casgliadau, rhaglenni dysgu ac allgymorth.
  • Mae mwy na 100 o brosiectau sy'n canolbwyntio ar gasgliadau dynodedig yn Lloegr a chasgliadau arwyddocaol yn yr Alban wedi cael £118 miliwn.
  • Rydym wedi dyfarnu dros £15 miliwn i brosiectau archifau cymunedol.
  • Rydym wedi rhoi dros £146 miliwn i gaffael casgliadau amgueddfeydd.

Canfod rhagor o brosiectau

Gwelwch fwy o brosiectau yng Nghymru.