Prosiectau
Grwp o gyn-filwyr yn siarad i blant ysgol am eu profiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd − rhan o brosiect Bournemouth in Wartime. Llun Paul Close/Insight

Diwylliannau ac atgofion  

Rydym wedi buddsoddi mewn pob math o dreftadaeth sydd nid yn unig yn seiliedig ar adeiladau, casgliadau a thirluniau, ond sy'n canolbwyntio ar y pethau hynny na allwn eu cyffwrdd: hanesion, atgofion ac ieithoedd ac arferion. Mae ein harian wedi helpu pobl i gysylltu â'u cymunedau lleol a dathlu'r hyn sy'n bwysig iddynt hwy.

O brosiectau hanes ar lafar, a roddodd lais i bobl gyffredin a helpu i lywio treftadaeth y dyfodol, i brosiectau sy'n helpu pobl i ddysgu am draddodiadau a chrefftau lleol a'r sgiliau sydd eu hangen i'w diogelu, gall ein grantiau helpu pobl i gael gwybodaeth am gorffennol a'i berthnasedd i'w bywydau heddiw. Drwy archwilio i gyd-destun cymdeithasol a hanesyddol ffurfiau ar gelfyddyd fel dawns, cerddoriaeth a ffilm, rhoddwyd cyfleoedd i bobl ddysgu am dreftadaeth mewn ffyrdd creadigol a llawn hwyl.

Mae nifer o'n prosiectau wedi dod â phobl o gefndiroedd gwahanol at ei gilydd i gydweithio a dysgu am dreftadaeth ei gilydd, gan greu synnwyr o falchder.

Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau rydym wedi cefnogi.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Dyfarnwyd dros £72 miliwn i 2800 o brosiectau hanes ar lafar a hel atgofion. 
  • Arweinir 77% o brosiectau hanes ar lafar, a ariannwyd gennym, gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol sydd â diddordeb mewn hanes lleol ac annog deialog rhwng gwahanol genedlaethau
  • Rydym wedi cefnogi dros 200 o brosiectau sy'n diogelu treftadaeth ieithyddol a thafodiaethol y DU.
  • Rydym wedi dyfarnu mwy na £14.5 miliwn i 200 o brosiectau sy'n archwilio treftadaeth ffydd a chrefydd y DU.
  • Rydym wedi dyfarnu dros £15.3 miliwn i brosiectau sy'n ymwneud â'r farchnad caethweision a'i effaith ar y DU.

Canfod rhagor o brosiectau

 Gwelwch fwy o brosiectau yng Nghymru