Prosiectau
Golygfa gaeafol o Stiperstones draw i Corndon − rhan o'r cynllun Partneriaethau Tirlun

Tir a bioamrywiaeth 

Gall ein cyllid helpu i drawsnewid tirweddau gwledig a threfol ledled y DU. O barciau cyhoeddus i fynwentydd, o gynefinoedd bywyd gwyllt i rywogaethau prin, o wenyn i forfeirch, maent oll wedi cael cymorth drwy ein cyllid ar gyfer prosiectau tir a bioamrywiaeth.

Mae ein buddsoddiadau wedi helpu i gadw ac adfer rhai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Rydym yn cyfrannu'n fawr tuag at y gwaith o fodloni targedau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, drwy brosiectau a gyflenwir drwy ein rhaglenni Grantiau Treftadaeth, Gwreiddiau Ifanc ac Eich Treftadaeth.

Mae ein rhaglen Partneriaethau Tirwedd arloesol yn helpu i gadw tirweddau nodedig, drwy fuddion cadwraeth, yn ogystal â helpu pobl i ddysgu am ein cefn gwlad unigryw, a chael mynediad ato. 

Mae ein rhaglen Parciau i Bobl wedi adnewyddu dros 500 o barciau cyhoeddus, yn cynnwys parciau trefol, parciau gwledig, sgwariau, gerddi a phromenadau. Mae ein buddsoddiadau wedi adfywio parciau cyhoeddus y DU gan sicrhau bod mannau gwyrdd yn fwy hygyrch, yn fwy deniadol ac yn fwy diogel, a chan ddod â buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i'n cymunedau.

Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau rydym wedi cefnogi.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Mae dros £91 miliwn wedi helpu i brynu dros 70,000 hectar o dir sy'n bwysig i fywyd gwyllt.
  • Rydym wedi dyfarnu dros £15 miliwn i fwy na 400 o brosiectau gan olygu bod natur yn fwy hygyrch i bawb, er enghraifft, drwy lwybrau cerdded, llwybrau estyllod, cuddfannau a thechnoleg ddigidol.
  • £41 miliwn i 120 o brosiectau sydd o fudd i dirweddau, dyfarnwyd £22 miliwn ohono i 27 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac £19 miliwn i 18 o Barciau Cenedlaethol
  • Dyfarnwyd grantiau i adfer ac ymestyn mwy na 100 cilomedr o berthi a 42 cilomedr o waliau carreg sych.
  • Rydym wedi rhoi arian i wella neu greu mwy na 3,300 cilomedr o lwybrau troed, llwybrau, llwybrau ceffylau a llwybrau mynediad eraill.

Canfod rhagor o brosiectau

Gwelwch fwy o brosiectau yng Nghymru.