Prosiectau
Dynes ifanc yn gweithio maen − rhan o Gynllun Bwrsariaeth Sgiliau Adeiladu Traddodiadol

Cadwraeth  

O helpu i atal y gostyngiad ym mhoblogaeth rhywogaethau prin i alluogi gwaith atgyweirio ar locomotifau hanesyddol, mae ein grantiau yn helpu grwpiau a sefydliadau o wahanol maint a math i ddiogelu treftadaeth amrywiol y DU.

Mae ymyraethau arbenigol yn mynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y morgrug coch prin a chregyn gleision dŵr croyw, a nifer o adeiladau hanesyddol, fel yr enghraifft olaf o dai cefn wrth gefn yn Birmingham, sydd wedi cael eu hatgyweirio a'u trawsffurfio er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. 

Mae ein harian hefyd yn galluogi nifer o fandstandiau a nodweddion eraill a gollwyd mewn parciau hanesyddol i gael eu hadfer, yn ogystal â diogelu nifer o longau, enjinau a cherbydau a wneir gan grwpiau gwirfoddol. Ac mae ein grantiau yn werthfawr iawn wrth ddiogelu deunydd a gadwyd mewn archifau a llyfrgelloedd yn ogystal â gwrthrychau mewn amgueddfeydd ac orielau, o Archifa Dinas Lerpwl i Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.

Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau rydym wedi cefnogi.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Mae ein harian wedi helpu i ddileu enwau 170 o adeiladau oddi ar gofrestri cenedlaethol Adeiladau sydd mewn Perygl y DU.
  • Rydym wedi rhoi dros £1.5 biliwn i brosiectau sydd wedi diogelu mwy na 12,800 o adeiladau hanesyddol, yn cynnwys 2,400 o adeiladau rhestredig Gradd I/A a Gradd II*B.
  • Rydym wedi dyfarnu dros £305 miliwn i warchod adeiladau crefyddol a henebion.
  • Enillodd y gwaith adnewyddu a wnaed i Fasn Camlas Stourport-on-Severn y categori treftadaeth yn Nyfarniadau'r Loteri Genedlaethol yn 2009.
  • Rydym wedi dyfarnu dros £40 miliwn i warchod dros 100 o safleoedd archeolegol.

Canfod rhagor o brosiectau

Gwelwch fwy o brosiectau yng Nghymru.