Mae ein harian yn hyrwyddo mwy o bobl a chymunedau i ymgysylltu â'u treftadaeth.
Mae prosiectau Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi datblygu cynulleidfaoedd newydd ac ehangach i dreftadaeth. Mae rhaglennu a dehongliadau newydd, ymgynghori â chynulleidfaoedd a gweithgareddau allgymorth i gyd wedi helpu i ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o bobl ledled y DU.
Rydym wedi galluogi pobl i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o wneud penderfyniadau am eu treftadaeth. Mae pobl leol wedi cyfrannu at grwpiau cynghori prosiectau a phaneli ieuenctid, ac mae sefydliadau treftadaeth a chymunedau wedi cydweithio ar brosiectau treftadaeth.
Mae'r prosiectau a ariannwyd gennym wedi cael effaith sylweddol ar gyfleoedd newydd i wirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr wedi gwella'u sgiliau, wedi meithrin hyder, iechyd a lles, tra bod treftadaeth wedi elwa ar eu profiad, eu hamser a'u brwdfrydedd.
Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau rydym wedi cefnogi.