Prosiectau
Grwp o ferched ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect South Dorset Ridgeway. Llun Dave Penman ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dorset

Dysgu  

Mae dysgu wrth wraidd yr hyn a wnawn ac mae ein harian yn cynnig cyfleoedd i bawb yn y DU ddysgu am dreftadaeth.

Mae ein prosiectau wedi helpu dysgwyr o bob oedran a chefndir i ddatblygu eu dealltwriaeth o dreftadaeth mewn ffordd sy'n briodol i'w hanghenion a'u diddordebau. Mae pobl wedi dysgu neu wedi gwella sgiliau drwy raglenni hyfforddiant, wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithdai, ac wedi creu arddangosfeydd, cyhoeddiadau a thudalennau gwe i'w helpu i rannu'r hyn maent wedi'i ddysgu gyda chynulleidfaoedd newydd.

Mae ein harian wedi helpu sefydliadau i lunio gweithgareddau addysg arloesol mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol, ysgolion a cholegau a chreu mannau newydd ar gyfer dysgu am dreftadaeth mewn ffordd ddiogel a hwylus, yn yr awyr agored ac o dan dô.

Darllenwch astudiaethau achos (yn Saesneg) o rai o brosiectau rydym wedi cefnogi.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Mae ein holl brosiectau yn helpu pobl i ddysgu am dreftadaeth.
  • Rydym wedi ariannu dros 1,000 o swyddi addysg treftadaeth a 630 o fannau ar gyfer dysgu, yn cynnwys ystafelloedd dosbarth awyr agored a theatrau darlithio.
  • Rydym wedi buddsoddi £27 miliwn drwy ein rhaglen Bwrsarïau Hyfforddi a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol - i gyflawni hyfforddiant treftadaeth seiliedig ar waith o safan uchaf.
  • Rydym wedi rhoi mwy na £1.5 biliwn i dros 4,600 o brosiectau sy'n cynnwys gweithgareddau i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu am dreftadaeth.
  • Mae arolygon wedi canfod bod 79% o bobl sy'n ymweld â safleoedd a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri o'r farn y gall plant ddysgu pethau na ellir mo'u dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Canfod rhagor o brosiectau

Gwelwch fwy o brosiectau yng Nghymru.

  • Hawlfraint © [] Cronfa Dreftadaeth y Loteri